Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Iau, 27 Tachwedd 2025
Amser:
09.30 -
12.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15411
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Buffy Williams AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Russell George AS Vaughan Gething AS Carolyn Thomas AS |
|
Tystion: |
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Ruth Meadows, Llywodraeth Cymru Emyr Harries, Llywodraeth Cymru Claire Bushell, Llywodraeth Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Leah Whitty (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Thomas Morris (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Datganodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch fod aelod agos o'r teulu yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ynghylch y gyllideb ddrafft.
2.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn ar y canlynol:
- y newidiadau i’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg.
- data ar gyfranogiad a chanlyniadau dysgwyr yn y rhaglen Seren.
- y pwysau ehangach y mae’r sector addysg uwch yn eu hwynebu.
- yr arbedion refeniw ar gyfer ysgolion carbon sero-net.
- Pan fydd ar gael, bydd y gwerthusiad diweddaraf o'r rhaglen Taith yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.
Nodwyd y papurau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am ragor o wybodaeth.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol. Byddai adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai'n cael ei drafod eto yn y cyfarfod ar 17 Rhagfyr.